Rhif y ddeiseb: P-06-1233

Teitl y ddeiseb: Diddymu Rheoliadau Coronafeirws a dod â holl gyfyngiadau COVID-19 i ben

Testun y ddeiseb:

Dylid diddymu holl gyfyngiadau COVID, adfer iawnderau sifil a rhyddid cymdeithasol a chynyddu ffocws ar addysg, arweiniad, cyngor ac arferion gorau.
Dylid caniatáu’r rhyddid i ddewis o blaid iechyd meddwl:  Gall y rheini sy'n dymuno ynysu yn eu cartrefi gael rhwydd hynt i wneud hynny, felly hefyd y rheini sy'n dymuno dychwelyd i fywyd normal.


1.        Cefndir:  Y Rheoliadau

Er mis Mawrth 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau i ddiogelu iechyd pobl o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 er mwyn rheoli effaith y pandemig. Mae'r rheoliadau wedi cael eu diwygio'n aml i ystyried newidiadau yn ystod y pandemig.

Mae'r rheoliadau cyfredol yn nodi rheolau’r pedair lefel, a nodir yn eu tro gan Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws,, sy’n amrywio o ofyniad i aros gartref o dan lefel 4 i gyfyngiadau ar gynulliadau a digwyddiadau o dan lefel 1. Maent hefyd yn pennu rheolau sy'n berthnasol i bob lefel rhybudd, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo gorchuddion wyneb mewn sefyllfaoedd a lleoedd penodol.

Yn gyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r weithdrefn frys a nodir yn Adran 45R o’r Ddeddf i wneud rheoliadau diogelu iechyd. O dan y weithdrefn hon, mae modd gwneud rheoliadau heb osod drafft gerbron y Senedd a gofyn iddi ei gymeradwyo, os yw'r sawl sy'n gwneud y rheoliadau yn datgan ei fod o'r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud hyn.  Rhaid i reoliadau o'r fath gael eu cymeradwyo gan y Senedd cyn pen 28 diwrnod (gellir estyn y cyfnod hwnnw o dan amgylchiadau penodol). Nid yw'r Senedd wedi pleidleisio i wrthod unrhyw reoliadau diogelu iechyd yn ystod y pandemig.

2.     Dirymu'r rheoliadau

Byddai Llywodraeth Cymru yn gallu dirymu'r rheoliadau diogelu iechyd drwy wneud is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Gwneir y rheoliadau dros dro. Ar adeg ysgrifennu'r papur hwn, y dyddiad y daw’r rheoliadau i ben yw 25 Chwefror 2022.

Mae’r rheoliadau’n cynnwys gofyniad hefyd i Lywodraeth Cymru adolygu, bob 21 diwrnod, a oes angen y cyfyngiadau a'r gofynion a osodwyd gan y rheoliadau, ac a ydynt yn gymesur â'r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio'i gyflawni drwyddynt.

3.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r ddeiseb ar 15 Rhagfyr, pan roedd Cymru ar lefel rhybudd 0.

Yn yr ymateb, mae'r Gweinidog yn cydnabod bod rhai mesurau i ymateb i'r pandemig wedi bod yn heriol iawn, ond mae’n dweud bod eu hangen i atal lledaeniad y feirws, achub bywydau a diogelu'r GIG.

Mae’r Gweinidog yn nodi bod adolygiadau 21 diwrnod Llywodraeth Cymru o'r rheoliadau yn cynnwys cydbwyso'r niwed uniongyrchol a ddaw yn sgil y coronafeirws â’r effaith gymdeithasol ehangach, yr effaith economaidd a’r effaith ar lesiant pobl.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.